Saesneg Cymraeg

Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn




YnglŶn ag AGAP

Mae AGAP yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (Cymru), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, PONT, RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Caiff y prosiect ei ariannu hefyd gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Partneriaid AGAP

Anglesey County Council

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Sir Ynys Môn yw’r awdurdod unedol sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau llywodraeth leol ar Ynys Môn, gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd a phriffyrdd.       

Countryside Council for Wales

Cyngor Cefn Gwlad Cymru     
Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw cynghorwr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru a dyfroedd ei glannau. Mae cydlynydd AGAP yn gweithio gyda’r Cyngor hwn i helpu ffermwyr a rheolwyr tir i sefydlu pori.       

Farming and Wildlife Advisory Group

Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt
Mae’r Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt yn darparu arbenigedd rheoli amgylcheddol i bobl sy’n rheoli cefn gwlad, er mwyn gwella a gwarchod cefn gwlad a’i fywyd gwyllt brodorol.

North Wales Wildlife Trust

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw un o’r 47 Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ledled y DU ac un o chwe Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru. Mae’n bodoli i warchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru i’r dyfodol ac i gynyddu’r ddealltwriaeth o fywyd gwyllt lleol a’r amgylchedd naturiol. Mae cydlynydd AGAP yn gweithio o swyddfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac yn helpu gyda materion pori ar ei gwarchodfeydd.

PONT

PONT (Pori Natur a Threftadaeth)
PONT yw cangen ranbarthol Cymru o’r Bartneriaeth Cyngor ar Bori (GAP). Mae’n annog ac yn hwyluso pori priodol a chynaliadwy er budd bywyd gwyllt, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae cydlynydd AGAP yn cael ei ariannu drwy PONT, a oedd yn allweddol wrth sefydlu partneriaeth AGAP.

RSPB

Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Mae RSPB yn gwarchod, yn adfer ac yn rheoli cynefinoedd i adar a bywyd gwyllt arall ar draws mwy na 200 o warchodfeydd natur. Mae’r Gymdeithas hefyd yn ymchwilio i broblemau sy’n wynebu adar a’r amgylchedd, gan edrych am atebion ymarferol i’w gweithredu ar lawr gwlad.
Mae AGAP yn helpu RSPB gyda’r pori ar ei gwarchodfa yn Ynys Lawd.

National Trust Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Elusen annibynnol yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gweithio i warchod a diogelu adeiladau, cefn gwlad ac arfordir Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n gwneud hyn drwy waith cadwraeth ymarferol, addysg, a darparu mynediad at safleoedd o dreftadaeth genedlaethol. Mae AGAP yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ei holl safleoedd yn Ynys Môn.
Esmee Fairbairn Foundation

Sefydliad Esmée Fairbairn
Nod Sefydliad Esmée Fairbairn yw gwella ansawdd bywyd i bobl a chymunedau yn y DU. Fel un o’r sefydliadau gwneud grantiau annibynnol mwyaf yn y DU, mae’n ymrwymo £25 miliwn bob blwyddyn i ariannu gweithgareddau elusennol amrywiaeth o gymdeithasau. Mae cydlynydd AGAP yn cael ei ariannu’n rhannol gan Sefydliad Esmée Fairbairn drwy PONT.               

 

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru yn 2000, i annog unigolion a chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fyw a gweithio, a chryfhau a diogelu’r diwylliant, y bywyd gwyllt a’r dirwedd leol ar yr un pryd. Mae’r Gronfa hon yn cyfrannu at AGAP a rhoes gyllid i gyflenwi cynllun Grant Pori er Lles Bywyd Gwyllt AGAP.

Welsh Assembly Government

Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru yw’r Llywodraeth ddatganoledig i Gymru, sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion bob dydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a llywodraeth leol.