Marc Ansawdd AGAP - Cyfle I Brynu Cynnyrch Lleol Blasus
Mae da byw AGAP yn cael eu pori er budd natur, er mwyn cryfhau cynefinoedd a thirweddau lleol. Mae pori ar rostir, dolydd blodau gwyllt, glaswelltir arfordirol, ffeniau a morfeydd heli Ynys Môn yn gynaliadwy ac mae hefyd yn darparu cynnyrch o ansawdd uchel gan gynnwys cig eidion, cig oen, gêm, mêl a gwlân.
Dengys ymchwil diweddar ym Mhrifysgol Caerwysg fod cig o anifeiliaid a reolir yn helaeth ac a dyfir yn araf ar borfeydd bioamrywiol yn cynnwys llawer iawn o Omega 3.
Mae cig sydd wedi’i bori’n gyfrifol yn cynnwys manteision iechyd sylweddol, ac mae profion blas wedi dangos ei fod yn blasu’n fendigedig hefyd.
Lansiwyd brand AGAP yn Sioe Ynys Môn ym mis Awst 2010, gyda chig eidion rhostir Byrgorn a chig oen glaswelltir llanw o aelod-ffermydd yn cael eu gwerthu drwy Gigydd y Fali. Bu siop Karl Jones yn gwerthu cig o ffermydd Ynys Môn yn y gorffennol, ond mae yntau’n credu bod rheoli pori mewn modd cyfeillgar i natur a nod masnach AGAP yn rhoi gwir hunaniaeth i’r cynnyrch lleol, sy’n siŵr o gynyddu’r galw.
Bydd cynnyrch o frand AGAP ar gael yn helaethach cyn bo hir – mor bell i ffwrdd â Llundain hyd yn oed – ond bydd y cyswllt bwyd lleol yn parhau. Fel yr eglura Henry Buller o’r rhaglen Defnydd Tir ac Economi Wledig: “Dylai bro ymwneud ag ansawdd y lle a’r berthynas rhwng y dirwedd amaethyddol ac ecolegol.” Bydd y farchnad leol bob amser o bwysigrwydd uniongyrchol.
Mae’r cyflenwad yn dibynnu ar ba adeg mae anifeiliaid yn barod, felly mae cynnyrch ar gael yn dymhorol. Mae’r wybodaeth am argaeledd a chynigion yn cael ei diweddaru’n rheolaidd yma ar y wefan.
Beth yw Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Ynys Môn?
Datblygwyd brand Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Ynys Môn gyda ffermwyr AGAP i hyrwyddo bwyd lleol ac er budd economi’r ynys. Mae cynnyrch cyfeillgar i fywyd gwyllt Ynys Môn yn gynnyrch ardystiedig AGAP, sy’n golygu y daw ein cig eidion a’n cig oen i gyd o fridiau a chroesfridiau traddodiadol, wedi’u geni a’u magu ar yr ynys.
Mae’r dystysgrif yn dangos y daw’r cynnyrch i gyd o anifeiliaid a fu’n pori dan reolaeth er budd bywyd gwyllt. Mae’n cydymffurfio â meini prawf caeth, a gynlluniwyd i adlewyrchu ein safonau cadwraeth a lles uchel.
Ble Alla i Brynu Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt?
Gellir prynu Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Ynys Môn yng Nghigydd y Fali.


