Saesneg Cymraeg

Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn




Newyddion Archif 2009

Sioe Ynys Môn 2009

Denwyd tyrfaoedd y llynedd i stondin ar y cyd AGAP a Kehoe Countryside, i weld arddangosiadau o wneud clwydi traddodiadol a ffensys llechi, casglu coeden am ddim gan Goed Cadw a dysgu am bori a rheoli cefn gwlad cynaliadwy.

Enillodd y stondin wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Stondin Anfasnachol – bonws annisgwyl!

Arwerthiant Merlod Carneddau

Mae merlod Carneddau’n chwarae rhan fawr mewn pori ar dir AGAP ar Ynys Môn felly roeddem wrthi’n frwd yn helpu i redeg arwerthiant cyntaf Merlod Carneddau yn Llanfairfechan ym mis Rhagfyr 2009. Aeth 109 o ferlod drwy gylch yr arwerthiant i ddod o hyd i gartrefi fel porwyr er lles cadwraeth a merlod teulu. Cefnogwyd yr arwerthiant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cynhelir yr arwerthiant nesaf ym mis Tachwedd 2010 yn Llanfairfechan.

Cwrs Trin Merlod Lled-Wyllt Carneddau

Gweithiodd AGAP gyda Natur i drefnu cwrs lle bu Dru Butterfield o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merlod Dartmoor yn dysgu technegau trin a thrafod i fridwyr merlod Carneddau.

Dofwyd ebolion ac ebolion blwydd gwyllt nad oeddent wedi’u trin erioed o’r blaen, er mwyn eu harwain, trin eu traed a’u llwytho ar drelar gan ddefnyddio dulliau sy’n deillio o hyfforddwyr Brumby yn Awstralia.

Bydd y sgiliau a ddysgwyd drwy’r cwrs hwn yn cael eu defnyddio i hyfforddi stoc ifanc yn y dyfodol i wella enillion i’r bridwyr.