Sut Gallwn Ni Helpu
Gall cydlynydd pori AGAP gynnig:
Cyngor Rhad ac am Ddim, Penodol i Safle ar Reoli a Phori
I’ch helpu i benderfynu sut i bori eich tir, neu i drafod dewisiadau rheoli sydd o fudd i fywyd gwyllt, trefnwch ymweliad safle â chydlynydd AGAP.
Cymorth gyda Chyllid ar Gyfer Ffensys, Ffaldau neu Gyflenwad Dŵr i Hwyluso Pori
Mae porwyr a thirfeddianwyr AGAP wedi cael cymorth gan amrywiaeth o grantiau i gefnogi seilwaith pori – fe allech chi elwa hefyd. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cymorth Marchnata
Cafodd brand a Marc Ansawdd AGAP – ‘Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Ynys Môn’ – ei lansio yn ddiweddar, sydd wedi helpu porwyr i ddod o hyd i lwybrau newydd i’r farchnad. Cewch weld pa gynnyrch sydd ar gael yn awr.
Cymorth Ariannol i Ddechrau Menter Da Byw â Bridiau Priodol
Gellir prydlesu gyr neu braidd dechreuol drwy AGAP er mwyn pori os nad oes bridiau gennych sy’n addas i’r safle.
Cymorth i Gysylltu Tir â Da Byw yn Eich Ardal Chi
Os oes angen anifeiliaid pori arnoch, gallwn ddod o hyd i ffermwr a allai fod â diddordeb mewn pori eich tir. Os oes stoc sbâr gennych, efallai byddwn yn gwybod am rywle y mae arno ei hangen.
Hyfforddiant i Ffermwyr, Rheolwyr Safle a Pherchenogion Cŵn
Mae cyrsiau wedi’u cynnal ar archwilio stoc, hylendid a pharatoi cig, a mynd â’ch ci am dro lle mae anifeiliaid yn pori. Trefnir y cyrsiau hyn i fodloni galw.
Trefnu Ymweliad
Cysylltwch â Hilary Kehoe, cydlynydd AGAP, i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am bori er lles bywyd gwyllt.
Grantiau
Mae hyd at 50% o gyllid grant (hyd at fwyafswm o £1,000) ar gael tuag at ffensys, cyflenwad dŵr, ffaldau trin a thrafod a chlwydi er mwyn sefydlu pori.
Cynhelir arolwg cychwynnol gan AGAP i bennu beth sydd ei angen a llenwir ffurflen gais syml. Mewn rhai achosion, gallwn helpu i ganfod cyllid arall am brosiectau mwy.
Dyfarnwyd £18,000 mewn cyllid grant drwy AGAP ac fe’i gwariwyd ar Ynys Môn i hwyluso pori ers mis Gorffennaf 2008, i ddarparu ffensys, dŵr a ffaldau trin a thrafod i 17 o ffermwyr a thirfeddianwyr.
Ar y fferm hon, roedd y cyllid tuag at glwydi, cafnau dŵr a ffensys yn golygu y gellid pori gwartheg Dexter ar y caeau er mwyn gwella amrywiaeth rhywogaethau planhigion a phryfed yn fesuradwy dros ddwy flynedd.
Disgrifir enghreifftiau eraill yn yr astudiaethau achos.
Cysylltwch â Hilary Kehoe, cydlynydd AGAP, i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am gyllid grant.
