Saesneg Cymraeg

Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn




Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn

Mae Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn (AGAP) yn gynllun pori lleol sy’n gweithio i gysylltu tir o ddiddordeb bywyd gwyllt a chadwraeth â phorwyr a ffermwyr sy’n gallu cyflenwi stoc pori addas er budd bywyd gwyllt, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Ynys Môn.

Sefydlwyd AGAP yn 2008, ac mae wedi cyflwyno a chefnogi pori ar 16 safle ledled Ynys Môn sy’n fwy na 300 hectar i gyd. Gallwn helpu ffermwyr, cymdeithasau a thirfeddianwyr i sefydlu pori cynaliadwy ar safleoedd sy’n gyforiog o fywyd gwyllt ar Ynys Môn.

Mae cynnyrch o safleoedd sy’n gyforiog o fywyd gwyllt yn cael ei werthu o dan safon ansawdd AGAP mewn marchnadoedd lleol ac yn Llundain. Cefnogir ffermwyr a chynhyrchwyr drwy gynllun marchnata AGAP o’r cae i’r plât. Daw’r cynnyrch o anifeiliaid sy’n cael eu geni a’u magu ar yr ynys, eu pori er budd bywyd gwyllt, eu bwydo â phorthiant lleol a’u paratoi i’w gwerthu ar yr ynys.

Pam Mae Pori’n Bwysig

Mae pori tir yn ofalus ac yn briodol yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd gwyllt yn ffynnu neu’n diflannu’n gyfan gwbl. Mae sicrhau bod tir yn cael ei reoli yn y modd gorau posibl er budd bywyd gwyllt yn golygu paru’r da byw cywir â’r math cywir o dir ar yr adeg gywir. Mae tanbori a gorbori yn gwneud cynefin yn llai gwerthfawr o ran bywyd gwyllt.

Mae angen inni gynllunio patrymau pori cytbwys sydd wedi’u teilwra i annog a chryfhau mathau penodol o gynefin i blanhigion, anifeiliaid, adar a phryfed penodol.

Mae gan Ynys Môn amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau o blanhigion, adar ac anifeiliaid o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol sydd eisoes wedi elwa ar gymorth AGAP. I gyd, mae 60 SoDdGA a mwy na 90 safle arall sy’n fwy na 3,000 hectar o rostir arfordirol, glaswelltir arfordirol a ffeniau sy’n gartref i 1,412 o fathau o blanhigion ac amrywiaeth helaeth iawn o fywyd gwyllt.

Marc Ansawdd AGAP - Cyfle i Brynu Cynnyrch Lleol Blasus

Mae da byw AGAP yn cael eu pori er budd natur, er mwyn cryfhau cynefinoedd a thirweddau lleol. Mae pori ar rostir, dolydd blodau gwyllt, glaswelltir arfordirol, ffeniau a morfeydd heli Ynys Môn yn gynaliadwy ac mae hefyd yn darparu cynnyrch o ansawdd uchel gan gynnwys cig eidion, cig oen, gêm, mêl a gwlân.