Newyddion A Digwyddiadau 2010
Sioe Ynys Môn 2010: Cynhelir Sioe Ynys Môn ar 10 ac 11 Awst. Mae AGAP yn rhannu stondin ag Undeb Amaethwyr Cymru lle gallwch:
- Weld rhai o’r merlod sy’n helpu i bori ym Mharc Gwledig y Morglawdd a mynd yn agos atynt.
- Arogli’r selsig sy’n hisian yng nghystadleuaeth Undeb Amaethwyr Cymru wrth iddynt goginio. Beirniadu ar fore Mawrth a chanlyniadau ar fore Mercher.
- “Blaswch yr olygfa” wrth ichi gael blas ar rai o eidionod Bodior AGAP. Prynhawn dydd Mawrth
- Dysgu rhai technegau coginio newydd gan Mel Thomas, cogydd enwog S4C. Prynhawn dydd Mercher.
- Siarad â ni dros de a theisennau cri a chael gwybod mwy am faterion pori ar y stondin.
Lansio Marc Ansawdd AGAP
Mae Marc Ansawdd AGAP yn gynllun ardystio y gall ffermwyr ei ddefnyddio i hyrwyddo cynnyrch o dir a reolir er budd bywyd gwyllt. Mae’r meini prawf yn ystyried y math o dir mae’r anifeiliaid yn ei bori, safonau lles, tarddiad porthiant, dulliau cynhyrchu ac aeddfedu’r cig.
Bydd y lansiad yn digwydd yn Sioe Ynys Môn o 10.30 ddydd Mercher yn rhan o’r digwyddiadau uchod.
Grŵp Bwyd Araf Dros-y-Fenai
Sgwrs a barbiciw eidion AGAP. 29 Awst 2010: Cynhelir y digwyddiad hwn, i aelodau Dros y Fenai ar dyddyn Dr Wil a Diana Roberts ger Rhoscolyn. Bydd cyfle i weld y tir a gweld y bywyd gwyllt a’r gwartheg Duon Cymreig. Bydd Hilary Kehoe yn siarad yn fras am bori er lles cadwraeth a chynnyrch AGAP lleol.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru (Gwynedd)
24 Tachwedd 2010 Bydd Hilary Kehoe yn rhoi cyflwyniad a darlith o’r enw ‘Cysylltu da byw a thirwedd’ am waith AGAP ar Ynys Môn. Am wybodaeth cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 01248 351541.
Siarad â Sefydliad y Merched Glasinfryn
Bydd Hilary Kehoe yn rhoi darlith a sioe sleidiau am Ffermio a Bywyd Gwyllt ar Ynys Môn mewn cyfarfod gyda’r nos ym mis Rhagfyr 2010.
Ffair Aeaf Ynys Môn
Mae AGAP yn noddi dosbarth yn y prif ddigwyddiad ffermio gaeaf ar Ynys Môn ar 29 a 30 Tachwedd 2010. Bydd stondin AGAP ger y prif gylch. Dewch i gael teisen gri a sgwrs.
Digwyddiadau’r gorffennol – Cwrs archwilio stoc (GAP)
Mae’r cwrs archwilwyr da byw yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i archwilio stoc. Mae’r cwrs yn ddelfrydol i ddechreuwyr, gwirfoddolwyr neu unrhyw un ag ychydig neu ddim profiad o dda byw. Mae’r cwrs yn ymdrin ag iechyd a lles anifeiliaid, y ddeddfwriaeth allweddol, rôl a chyfrifoldebau archwiliwr stoc a sut i archwilio da byw yn ddiogel ac yn effeithiol. Denwyd nifer dda i gwrs archwilio stoc y Bartneriaeth Cyngor ar Bori (GAP) a drefnwyd gan AGAP yn Nhalybont ym mis Mawrth 2010, a bu cyfranogwyr y cwrs allan ar y fferm i roi’r theori a ddysgwyd yn y bore ar waith a gweld sut mae’r tiwtor yn cael ei wybodaeth – yn syth o lygad y ffynnon.
