Saesneg Cymraeg

Privacy Information




Gwybodaeth Am Breifatrwydd

Nid yw GAP yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefan oni fyddwch chi’n dewis darparu’r wybodaeth honno i ni. Rydych chi’n rhydd i bori’r wefan hon yn anhysbys.

Gwybodaeth a Ddarperir yn Bersonol

Os dewiswch chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ni drwy anfon e-bost, neu drwy lenwi ffurflen â’ch gwybodaeth bersonol a’i chyflwyno drwy ein gwefan, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i ymateb i’ch ymholiad ac i’n helpu i roi’r wybodaeth neu’r deunydd y gofynnwch amdanynt i chi. Os darperir gwybodaeth bersonol sy’n galluogi rhywun i’ch adnabod chi, caiff ei chadw mewn cronfa ddata sy’n ddiogel yn GAP. Dim ond cyflogeion a chontractwyr GAP fydd yn gallu gweld y wybodaeth rydych wedi’i chynnig. Nid ydym yn rhoi, rhannu, gwerthu, nac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd parti, oni bai bod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Dolenni i Safleoedd Eraill

Rydym yn darparu dolenni i safleoedd Rhyngrwyd eraill. Pan fyddwch yn gadael ein safle ac yn ymweld â safle arall, rydych chi’n destun telerau a pholisi preifatrwydd y safle newydd.