Cefnogwch Ni
Gallwch helpu AGAP mewn nifer o wahanol ffyrdd o Noddi, i Archwilio Stoc Leol neu Wirfoddoli.
Nawdd
Mae rhai o’n safleoedd yn cael eu pori gan ferlod lled-wyllt o fynyddoedd Carneddau yn Eryri, neu gan ferlod Mynydd Cymreig Adran A. Mae personoliaeth fawr gan yr anifeiliaid bach hardd hyn ac maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog o reoli amrywiaeth o lystyfiant o eithin pigog i gyrs sydd hyd yn oed yn dalach na nhw! Beth am noddi un o’n merlod, a chael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ei chynnydd?
Archwilio Stoc yn Lleol
Os ydych chi’n cerdded yn rheolaidd mewn mannau lle mae stoc AGAP yn pori, a ydych chi wedi ystyried bod yn ‘wyliwr’? Mae hyn yn golygu helpu’r ffermwr drwy gadw llygad ar yr anifeiliaid, cymryd rhan mewn rheoli’r safle, a bod yn gyswllt rhwng y cyhoedd ac AGAP.
Gwirfoddoli
Mae diwrnodau gwaith gwirfoddol yn gyfle da i gyfarfod â phobl a chymryd rhan mewn tasgau ymarferol fel clirio mieri a chasglu sbwriel sy’n helpu i warchod bywyd gwyllt. Darperir offer a menig i dimau bach sy’n mynd allan ar safle gyda goruchwyliwr.
Mae myfyrwyr gwirfoddol wedi helpu gyda gwaith monitro, gwaith swyddfa a gofalu am y stondin mewn digwyddiadau wrth iddynt ddysgu am redeg cynllun pori.
Os hoffech gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn neu archwilio stoc (gweler uchod), byddem yn falch iawn o glywed wrthoch chi.
